Amdanom ni
Mae Canolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru yn wasanaeth cefnogi a gomisiynwyd yn lleol ar gyfer dioddefwyr pob math o drosedd yng Ngogledd Cymru. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yr Uned Gofal Tystion (GEG) a nifer o asiantaethau trydydd parti eraill i ddod a gwasanaethau i gefnogi dioddefwyr at ei gilydd.
Ein nodau a’n hamcanion
-
Darparu pwynt cyswllt unigol ar gyfer cael mynediad i wasanaethau i ddioddefwyr ac asesu risg sy'n cynnwys mecanwaith atgyfeirio cydlynol gyda llwybrau i bartneriaid ac asiantaethau eraill er mwyn cael cefnogaeth barhaus sy'n addas ar gyfer anghenion y dioddefwr
-
Canolbwyntio ar ddioddefwyr sydd â’r anghenion mwyaf
-
Hwyluso rhannu gwybodaeth a rheoli data
-
Hwyluso cyd-leoliad gwasanaethau
-
Darparu system gyfochrog ar gyfer cysylltu gyda, â chefnogi dioddefwyr sydd ddim eisiau riportio’r digwyddiad yn ffurfiol i’r heddlu
-
Cydymffurfio’n llwyr â'r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr a Chyfarwyddeb yr EU ar hawliau, cefnogi ac amddiffyn dioddefwyr trosedd
-
Goruchwylio'r ddarpariaeth leol o wasanaethau statudol a rhai a gomisiynwyd drwy system rheoli achosion
-
Darparu gwerth am arian
-
Rheoli disgwyliadau’r dioddefwr yn briodol a chyflawni ein haddewid iddynt
Ariannu
Ym mis Mai 2013 cyhoeddwyd fframwaith comisiynu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a oedd yn dweud y byddai’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau lleol ar gyfer dioddefwyr yn trosglwyddo i fod yn gyfrifoldeb ar y CHTh ddechrau’r flwyddyn ariannol 2015/16.
Ers Ebrill 2015 mae’r rhan fwyaf o wasanaethau cefnogi emosiynol ac ymarferol ar gyfer dioddefwyr troseddau wedi’u comisiynu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd lleol. O ganlyniad i hynny daeth yr hen drefniant bod Cymorth i Ddioddefwyr yn cael arian yn uniongyrchol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ben a throsglwyddir yr arian yn uniongyrchol i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd.
O ganlyniad mae’r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn cael ei noddi’n llawn drwy grant gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ddarparu gwasanaeth cefnogi wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer anghenion dioddefwyr troseddau yng ngogledd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn noddi gweithiwr achos Troseddau Casineb am gyfnod o dair blynedd i weithio i Cymorth i Ddioddefwyr.