Pwy allwn ni eu helpu?
Mae’r hyn yr ydym yn ei wneud yn debyg i gwnsela ond nid yw yr un fath a chwnsela. Mae cwnsela yn fath penodol iawn o therapi sy’n cael ei ymarfer gan bobl broffesiynol cymwys sy’n dadansoddi bywyd a hanes unigolyn yn ei gyfanrwydd er mwyn eu helpu nhw i ddeall eu hunain yn well. Dydy hyn ddim yn rhywbeth y bydd y rhan fwyaf o ddioddefwyr trosedd ei angen - fel arfer yr hyn maen nhw ei angen fwyaf ydi rhywun i’w helpu nhw i ymdopi â’r helbul emosiynol y mae bod yn ddioddefwr yn ei achosi.
Os byddwn yn teimlo bod dioddefwr angen gwasanaeth cwnsela llawn, e.e. o ganlyniad i broblemau fe anhwylder straen ôl-drawmatig, gallwn helpu i drefnu hynny.
Mae staff ein Canolfan Gymorth ar y cyd â’n staff allgymorth wedi’u hyfforddi i wrando, rhoi gwybodaeth a chynnig adborth. Maen nhw’n helpu pobl i wneud synnwyr o’r hyn maen nhw wedi bod drwyddo, yn dweud wrthyn nhw am y dewisiadau y gallant eu gwneud a’u helpu nhw i deimlo eu bod yn cael eu bywydau dan reolaeth eto. Mae siarad ag un o’n staff neu’n gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ddioddefwyr a thystion siarad am eu profiadau a dechrau ymdopi â phrofiadau poenus.
Mae llawer o bobl yn dod dros brofiadau annifyr drwy ymddiried yn eu teulu a’u ffrindiau, ond dydy hyn ddim yn gweithio i bawb, yn enwedig os yw’r bobl agosaf atynt yn dioddef effeithiau’r trosedd hefyd. Mae ein gwasanaethau ni yn cynnig lle diogel, diduedd i bob siarad am eu hofnau, eu pryderon a’u hemosiynau heb roi byrdwn ar y rhai agosaf atynt. Mae hyn yn helpu llawer o ddioddefwyr a thystion i ymdopi a symud ymlaen.
Mae’r rhan fwyaf o’n cefnogaeth wyneb yn wyneb yn cael ei darparu gan wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n llawn ac sydd wedi bod yn gwasanaethu yn y maes ers cryn amser, ac mae’r ffaith syml eu bod nhw’n barod i ddod allan a gwrando yn dangos i ddioddefwyr bod ‘na bobl dda sydd eisiau helpu yn y byd o hyd, hyd yn oed os gwnaeth un person eu brifo. Mae’r arddangosiad hwn o garedigrwydd a chefnogaeth ar ran unigolyn arall yn gwneud llawer i wella’r niwed y mae troseddau’n eu gwneud i hyder a thawelwch meddwl pobl..
Os byddwch angen rhagor o gymorth arbenigol nad ydym ni ein hunain yn teimlo y gallwn ei rhoi, gallwn gysylltu ag asiantaethau eraill ar eich rhan er mwyn i chi gael y gefnogaeth yr ydych ei hangen. Rydym yn gweithio’n agos ag amrywiaeth eang o ddarparwyr gwasanaethau eraill sydd â’r arbenigedd i’ch cynorthwyo chi gydag gwahanol sefyllfaoedd sydd wedi codi o ganlyniad i’r trosedd y gwnaethoch ei ddioddef.
Gallwn gynnig cefnogaeth emosiynol drwy ddod i’ch gweld yn eich cartref neu yn rhywle lle’r ydych yn teimlo’n ddiogel. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth emosiynol dros y ffôn, drwy e-bost, SMS neu drwy negeseuon testun.
Cymorth ymarferol
Gall bod yn ddioddefwr trosedd achosi pob math o broblemau ymarferol. Gall hyn amrywio o bethau sy’n fwy o niwsans na dim arall (er enghraifft difrod i’ch eiddo neu orfod llenwi ffurflenni yswiriant) i bethau fel problemau meddygol difrifol neu hyd yn oed golli eich cartref.
Tra bydd cefnogaeth emosiynol yn eich helpu chi i ddelio gyda’ch teimladau ar ôl trosedd, yn aml iawn bydd problemau ymarferol yn eich atgoffa o’r hyn yr ydych wedi’i ddioddef ac yn ei gwneud yn fwy anodd i chi gael rheolaeth dros eich bywyd eto a dechrau’r broses o wella.
Dyma pam yr ydym hefyd yn cynnig cymorth i fynd i’r afael ag effeithiau ymarferol bod yn ddioddefwr.
Gall hyn fod mor syml â’ch helpu i lenwi ffurflenni (er enghraifft ffurflenni hawlio iawndal) neu drefnu bod drysau a ffenestri’n cael eu trwsio.
Mae gan staff y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr fynediad i lawer iawn o adnoddau a allent wneud gwahaniaeth hollbwysig i’r dioddefwr a’u helpu nhw i ymdopi a dod dros y profiad. Er enghraifft bydd staff yn gwneud defnydd o’r Gronfa Enillion Carcharorion er mwyn helpu i roi cefnogaeth ymarferol i ddioddefwyr.
Gallwn hefyd helpu gyda phroblemau mwy e.e. triniaeth feddygol, dod o hyd i gartref newydd neu ddelio â’r system cyfiawnder troseddol yn ystod wythnosau a misoedd treial hir, cymhleth.
Os byddwch angen rhagor o gymorth arbenigol nad ydym ni ein hunain yn teimlo y gallwn ei rhoi i chi, gallwn gysylltu ag amrywiaeth eang o asiantaethau ar eich rhan er mwyn cael y cymorth angenrheidiol i chi. Rydym yn gweithio’n agos ag amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth eraill gydag arbenigedd a allent eich cynorthwyo chi gydag amrywiaeth eang o sefyllfaoedd y mae troseddau’n eu hachosi.
Cymorth gyda gwybodaeth am eich hawliau a delio â’r broses cyfiawnder troseddol
Mae staff ein Canolfan Cymorth Dioddefwyr wedi’u hyfforddi’n llawn ac yn deall yr hyn y mae gennych hawl i’w ddisgwyl unwaith y byddwch wedi dioddef trosedd. Mae’r Cod Ymarfer Dioddefwyr yn nodi beth y mae’n rhaid i wahanol asiantaethau yn y system cyfiawnder troseddol ei wneud i chi drwy gydol eich siwrne ar ôl i drosedd ddigwydd. Gall staff y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr roi cyngor i chi ar bob agwedd ar y Cod a byddant yn mynd ar ôl unrhyw asiantaeth nad yw’n diwallu gofynion y cod ar eich rhan. Os ydych yn dioddef trosedd mae gennych hawl i’r gwasanaethau hyn.